Gweithiwyr proffesiynol perthynol i Iechyd

Gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yw’r trydydd gweithlu clinigol mwyaf yn y GIG. Maen nhw’n grŵp amrywiol o glinigwyr sy’n darparu gofal o ansawdd uchel i gleifion ar draws ystod eang o lwybrau gofal ac mewn amrywiaeth o leoliadau gwahanol o’r ysbyty i’r cartref. Byddan nhw’n asesu, diagnosio, trin ac atgyfeirio at wasanaethau eraill. Maen nhw’n hyfforddi ac yn mentora myfyrwyr, clinigwyr ac yn gweithio’n agos gyda gofalwyr ac asiantaethau eraill gan feithrin perthnasoedd ar draws ffiniau sefydliadol. Mae llawer o rolau gwahanol yn gweithio ar draws ystod o sectorau, o ymateb brys a diagnosis i iechyd meddwl, adsefydlu corfforol a gwasanaethau plant a phobl ifanc; mae pob un yn chwarae rhan hanfodol mewn adsefydlu a gwella bywydau pobl.

Darganfyddwch pam ddylech chi weithio i ni.

Gweler rhestr lawn o fuddion gweithwyr.