Hanes a Natur

Sefydlwyd Abertawe ar ddechrau’r ddeuddegfed ganrif ac fe’i disgrifiwyd gan lawer fel un o ‘darddleoedd y chwyldro diwydiannol’ oherwydd ei rhan yn y gwaith o fwyndoddi copr yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Shot of an old lighthouse with blue sky in the background
From behind, a man and his son walking along the hills

Hanes

Gan ddefnyddio adnoddau naturiol, gwybodaeth a chyllid lleol, daeth Abertawe yn ganolfan fyd-eang ar gyfer cynhyrchu tunplat. Daeth y diwydiannu hwn â gwell ffyrdd o deithio a thwf trefol i Abertawe.

Roedd Abertawe yn gartref i’r rheilffordd gyntaf erioed yn y byd a oedd yn cludo teithwyr yn rheolaidd ym 1807. Adeiladwyd Rheilffordd y Mwmbwls am y tro cyntaf fel tramffordd ddiwydiannol oedd yn cael ei dynnu gan geffylau ym 1804-5. Roedd y llinell wreiddiol yn rhedeg o Abertawe i Ystumllwynarth, yna yn y 1890au cafodd ei hymestyn i redeg ymhellach i Bier y Mwmbwls a adeiladwyd o’r newydd.

I ddysgu mwy am hanes Abertawe, ewch i Rydych ar fin cyrchu gwefan allanol sydd y tu allan i reolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ac oherwydd hyn, efallai na fydd ar gael yn Gymraeg.wefan Amgueddfa Abertawe.

Mae Castell-nedd yn cymryd ei enw o’i leoliad ar groesfan isaf afon Nedd. Sefydlodd y Rhufeiniaid gaer yng Nghastell-nedd a arhosodd tan ymadawiad y lluoedd Rhufeinig yn y bedwaredd ganrif.

Sefydlwyd dau gastell yn yr ardal yn y 12fed ganrif. Y cyntaf gan Robert, Iarll Caerloyw a’r ail gan Richard de Glanville a aeth ymlaen yn ddiweddarach i sefydlu Abaty Nedd a oedd yn gartref i tua 50 o fynachod a nifer fwy fyth o frodyr lleyg. Yn ddiweddarach, aeth yr abaty ymlaen i wasanaethu fel gwaith copr cynnar yn ystod y Chwyldro Diwydiannol. Yn ymarferol gellir gweld holl gynllun yr abaty gwreiddiol a’i adeiladau hyd heddiw. Darllenwch fwy am Abaty Nedd ar wefan Cadw.

Mae gan Abaty Margam hanes diddorol, o fynachlog Sistersaidd sefydledig hyd at ei diddymu ym 1536 gan Harri VIII. Gallwch ymweld â’r gweddillion ger Parc a Chastell Gwledig Margam.

Mae gan yr ardal gyfan dreftadaeth codi glo gyfoethog a diddorol sy’n dyddio’n ôl i’r Oesodd Canol. Mae’r rhan fwyaf o’r hanes wedi’i gadw yn Amgueddfa Glofa Cefn Coed ger y Creunant. Hefyd mae’n gartref i beiriant Dirwyn Ager Silinder Dyblyg Llorweddol Worsley Mesnes o 1927.

Mae’n debyg bod Port Talbot yn enwog am ei waith dur ac mae ei hanes wedi plethu â datblygiad yr ardal ac ehangiad economaidd y DU gyfan yn ystod y 1950au. Tyfodd y boblogaeth yn gyflym gyda phobl yn ymgynnull i’r ardal am y gyflogaeth sicr a’r cyflogau cymharol uchel.

Pan fydd pobl yn meddwl am Gastell-nedd Port Talbot, maent yn tueddu i feddwl am ddiwydiant, ond mae hanes cyfoethog a diddorol yn yr ardal sy’n cwmpasu gymaint mwy na hynny. Cewch fwy o wybodaeth yma.

Shot of a harbour looking out into the water, with buildings to the left
The sun setting in the background, in the foreground we see a boat house with structure in the sea

Natur

Yn Abertawe, mae gymaint o ddewis rhwng y cefn gwlad hardd a’r morlin syfrdanol. Ni fyddwch byth yn brin o olygon rhagorol.

Penrhyn Gŵyr oedd Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf y DU.

Mae’r 26 milltir o gwmpas annwyl forlin Penrhyn Gŵyr yn cwmpasu’r ardal o gwmpas Rhosili. Mae hyn yn cynnwys y traeth hardd arobryn, Rhos Rhosili, Pen Pyrrod a gadewch i ni beidio ag anghofio am y blodau haul ysblennydd.

Ewch i wefan Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i ddarllen mwy am ardal hyfryd Rhosili.

A man and woman walking through a field
In the foreground we see the rolling hills, in the background a sandy beach and the sea

Natur yn Abertawe

Mae llawer i’w weld a’i wneud yn yr awyr agored ar draws ardal Abertawe, bydd gennych ormod o ddewis – ac nid ydym yn sôn am y traethau a’r morlin rhagorol yn unig.

Mae’r mannau gwyrd agored ym Mharc Singleton yn cynnig coed aeddfed a digon o fywyd gwyllt – mae’r Gerddi Botanegol hefyd yn sefyll y tu fewn i’r parc ac mae’n werth ymweld â nhw. Mae Gerddi Clun yn barc syfrdanol arall i ymweld ag ef oherwydd y coed a’r blodau trawiadol. Ac os ydych yn mynd tuag at yr arfordir, ewch i Fae Bracelet neu Warchodfa Natur Leol Bryn y Mwmbwls ar gyfer gwylio cramenogion, pryfed neu adar.

Mae Coed Cwm Penllergare yn 250 erw o goedwig a rhostir godidog gyda dau lyn, a rhaeadr hardd hyd yn oed. Ac os ydych chi’n chwilio am ddŵr, mae Cronfeydd Dŵr Lliw Isaf ac Uchaf ar agor i’r cyhoedd drwy gydol y flwyddyn, gan gynnig golygfeydd syfrdanol o’r mynyddoedd.

Natur yng Nghastell-nedd

Os ydych chi’n hoff iawn o fynd am dro gyda golygfeydd hardd a nifer fawr o raeadrau hygyrch, yna Bro’r Sgydau yw’r lle i chi! Bro’r Sgydau yw enw answyddogol a roir i gasgliad o raeadrau a leolir yng nghornel de-orllewin Bannau Brycheiniog.

Mae Parc Glan-yr-afon Glantawe yn ardal hamdden cefn gwlad anffurfiol â llwybrau cerdded a llwybrau beicio. Mae llwybrau troed y parc yn cysylltu â llwybr tynnu Camlas Abertawe a ffordd seiclo Cwmtawe. Mae’n wych ar gyfer y rhai sy’n frwdfrydig dros gerdded a seiclo.

Trysor arall yng Nghastell-nedd yw Parc Gwledig Ystad y Gnoll. Mae llu o weithgareddau i’r holl deulu – gan gynnwys bwydo’r hwyaid, llefydd chwarae, troeon yn y goedwig – ar gael i’w mwynhau yn y parc. Mae gardd ffurfiol i grwydro trwyddi, neu os ydych chi’n chwilio am rywbeth cyflymach, mae Parkrun bob bore Sadwrn.

Panoramic view of the beach with hills in the background
An old worn down castle

Natur ym Mhort Talbot

Mae Port Talbot yn gartref i Barc Margam, tirwedd amrywiol wedi’i lleoli dwy filltir i ddwyrain y dref. Mae gwerth hanesyddol a golygfaol rhagorol i’r ystad 850 erw, a gellir olrhain ei hanes yn ôl i amserau cynhanesyddol.

Mae gan Afan Argoed lwybrau beicio mynydd byd-enwog, llwybrau cerdded â chyfeirbwyntiau a llwybrau seiclo sy’n addas i’r teulu, ac mae’r rhain i gyd wedi’u gosod yn erbyn cefndir hardd Cwm Afan.

Gothic-Castle-in-Wales
Family Cycling Along Coastal Path On Bikes

Symud i’r ardal

Darganfyddwch pam ddylech chi weithio i ni.

Gweler rhestr lawn o fuddion gweithwyr.