Addysg

Mae gan ardaloedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot ddetholiad gwych o ysgolion o’r meithrin hyd at addysg uwch.

Dylai’r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg fod yn ymwybodol bod ysgolion cyfrwng Cymraeg yn addysgu yn Gymraeg yn unig. Mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, bydd gwersi Cymraeg ar y cwricwlwm, ond bydd yr holl addysgu yn cael ei wneud yn Saesneg.

A family of four, walking around the city centre
Two young boys laughing, looking as if they are in a school

Ysgolion

Ewch i wefan llywodraeth leol i ddarganfod mwy am ysgolion Abertawe.

Os ydych chi’n chwilio am ysgolion yn ardal Castell-nedd Port Talbot, ewch i wefan llywodraeth leol i ddarganfod mwy.

Prifysgol Abertawe

Prifysgol Abertawe yw un o’r 25 prifysgol orau yn y DU ac mae’n brifysgol ymchwil gyhoeddus gan gynnig cyrsiau sylfaenol, graddau israddedig a rhaglenni ôl-raddedig mewn cannoedd o bynciau, gan gynnwys gwyddorau, gwyddorau gofal iechyd, busnes a dyniaethau.

Mae gan BIPBA gysylltiadau cryf â’r brifysgol drwy ein Cyfleuster Ymchwil Glinigol ar y Cyd wedi’i leoli yn yr Ysgol Feddygaeth yn Ysbyty Singleton, ystod o gyd-brosiectau cyfredol a dyfodol cyffrous, a’n cyfleusterau ymchwilio a rennir.

Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

Gyda thri champws – un yng Nghaerfyrddin, un yn Llanbedr Pont Steffan ac un yn Abertawe – mae PCYDDS yn cynnig ystod eang o raglenni academaidd a phroffesiynol ar lefelau israddedig ac ôl-raddedig. Mae’n brifysgol uchel ei pherfformiad ac i’w gweld yn rhestr 10 Prifysgol Uchaf y DU am Fodlonrwydd Myfyrwyr (ACM 2023).

Coleg Gŵyr Abertawe

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn goleg addysg bellach yn Abertawe. Mae’r coleg yn un o’r colegau sy’n perfformio orau yng Nghymru ac mae yn rhan o ardal ddynodedig gyntaf y DU o harddwch naturiol. Gallwch ddysgu mwy yma.

Coleg Castell-nedd

Mae Coleg Castell-nedd yn rhan o grŵp colegau Colegau Castell-nedd Port Talbot (NPTC). Maen nhw’n cynnig ystod o gyrsiau rhan-amser, llawn-amser ac addysg uwch ar draws dewis eang o bynciau. Mae ganddyn nhw bopeth o ffotograffiaeth i beirianneg a chymaint mwy. Ewch i wefan NPTC i gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau a gynigir yng Ngholeg Castell-nedd.

Grŵp Colegau CNPT

Mae’r grŵp o golegau hwn yn cynnwys naw safle sy’n ymestyn o dde Cymru i ogledd Cymru, gan gynnwys Coleg Nedd, Coleg Afan, Coleg Pontardawe a Chanolfan Adeiladu Abertawe. Mae’r grŵp yn cynnig ystod o gyrsiau rhan-amser, llawn-amser ac addysg uwch ar draws detholiad eang o bynciau. Popeth rhwng ffotograffiaeth a pheirianneg a llawer mwy. Ewch i wefan Grŵp Colegau CNPT i ddysgu mwy am y cyrsiau a gynigir ar y campysau.

A young girl in the foreground, smiling in her school uniform in a school corridor
Four adults sat outside in a school garden, smiling and speaking with two young children who are on the floor eating

Symud i’r ardal

Darganfyddwch pam ddylech chi weithio i ni.

Gweler rhestr lawn o fuddion gweithwyr.