Nyrsio Oedolion

Mae Gwasanaethau Oedolion Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn darparu gofal cyfannol i ddinasyddion Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, yn ogystal â darparu ystod eang o ddarpariaethau gwasanaethau arbenigol i ardal ddaearyddol ehangach.

Nyrsio Oedolion yn BIP Bae Abertawe

Mae gyrfa mewn Nyrsio Oedolion yn BIP Bae Abertawe yn golygu y byddwch chi’n rhan o ddarparu gofal iechyd GIG â’i ansawdd wedi’i sicrhau yn y gymuned, lleoliadau cleifion allanol a chleifion mewnol, gydag ystod o dimau amlddisgyblaethol ar gael i chi.

Female nurse smiling at older male patient in hospital bed with secnond nurse back to frame
Woman nurse holding a clipboard to her chest, smiling at camera

Cyfleoedd
llwybr gyrfa

Bydd llawer o gyfleoedd i chi ddatblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth. Mae ystod eang o gyfleoedd i ofalu am oedolion, gan gynnwys ystod o wasanaethau arbenigol ar draws y Bwrdd Iechyd, gan gynnwys:

  • Arbenigeddau llawfeddygol: gan gwmpasu meysydd dewisol a meysydd heb eu cynllunio gan gynnwys llosgiadau a phlastigau, orthopedig, asgwrn cefn, llawdriniaeth y genau a’r wyneb, gastroenteroleg, pancreatig a bariatrig
  • Theatr: gan gynnwys cleifion mewnol a chleifion achos dydd
  • Cardiaidd / cardiothorasig
  • Adran Frys, meysydd asesu meddygol a llawfeddygol
  • Wardiau strôc, anadlol, niwroleg, diabetes ac endocrin
  • Arennol gan gynnwys dialysis arennol
  • Meysydd dibyniaeth uchel a gofal dwys: fel llosgiadau a chardiaidd
Woman nurse wearing surgical mask looking at doll baby on a changing table
Woman nurse smiling at camera

Pam dewis BIP Bae
Abertawe ar gyfer Nyrsio?

Fel nyrs oedolion yn BIP Bae Abertawe byddwch yn rhan o dîm sy’n eich cefnogi a’ch gwerthfawrogi, ac yn un sy’n rhoi diwylliant ein gweithlu ar flaen ein timau.

Cefnogaeth
Byddwch yn derbyn cyflwyniad a sesiwn ymgyfarwyddo i’ch maes gwaith i sicrhau eich bod yn gyfarwydd â’r amgylchedd ac yn gallu gweithio’n effeithiol. Byddwn yn darparu hyfforddwr wedi’i ddyrannu i chi i gefnogi eich trosglwyddiad i’n hadran. Byddwch hefyd yn cael mynediad at oruchwyliaeth glinigol drwy gydol eich cyflogaeth gyda ni.

Byddwn yn gwerthfawrogi ac yn gwrando ar eich adborth a byddwn yn gweithio mewn partneriaeth i ddatrys unrhyw bryderon sydd gennych chi. Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe byddwch yn aelod gwerthfawr o’r tîm amlddisgyblaethol a gallwch ddisgwyl cefnogaeth gan eich holl gydweithwyr.

Diwylliant
Byddwn yn darparu diwylliant cadarnhaol yn y gweithle lle caiff dysgu a datblygu eu hannog, a lle mae datblygiad proffesiynol yn cael ei gymeradwyo.

Stain glass window
Patient and clinical professional holding hands, with just hands in frame

Darganfyddwch pam ddylech chi weithio i ni.

Gweler rhestr lawn o fuddion gweithwyr.

Ein rolau

Mae amrywiaeth eang o rolau amrywiol sy’n ymwneud â nyrsio sy’n gysylltiedig
â’r nifer o dimau amlddisgyblaethol sy’n bodoli yn y Bwrdd Iechyd, er enghraifft:

Gwybodaeth
ychwanegol

Mae datblygiadau cyffrous yn digwydd yn y Bwrdd Iechyd, sy’n cynnwys:

  • Ehangu theatr, yn enwedig yn ein canolfan ragoriaeth Orthopedig ar ein safle yng Nghastell-nedd Port Talbot; ac
  • Ailgynllunio gwasanaeth meddygol ein gwasanaeth AMSR acíwt, ar ein safleoedd Singleton a Threforys.
Corridors and stairs inside hospital

Mae ymdeimlad gwirioneddol o berthyn
yn y bwrdd iechyd ac yn fy nghymuned leol