Banc Nyrs

Mae gennym ni amrywiaeth o rolau Banc ar gael ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, o Nyrsys i Borthorion a staff Gweinyddol i Lanhawyr. Gall gwaith banc ffitio o fewn eich ffordd o fyw gyda phatrymau gweithio hyblyg, ac mae’n rhoi cyfle i chi ddatblygu eich gyrfa, weithiau gyda chyfle i weithio mewn adrannau gwahanol.

Rydym ni’n darparu staff â sgiliau priodol i ymdrin ag arbenigeddau amrywiol ledled y Bwrdd Iechyd a’n nod yw darparu gweithwyr gofalgar, cymwys a dibynadwy sy’n gallu ymateb i ofynion staffio.

Scrub nurse looking and smiling at the camera, with hospital corridor in the background
Hand touching medical equipment

Banc Nyrsys yn BIP Bae Abertawe

Drwy ymuno â’n Banc Nyrsys byddwch yn cael…

  • Hyblygrwydd, amrywiaeth a’r cyfle ar gyfer sifftiau ychwanegol

    Amrywiaeth o batrymau sifft i gyd-fynd â’ch amgylchiadau personol y gellir eu cadw ymlaen llaw.

  • Hawl ychwanegol i EWTD

    Telir taliad ychwanegol o hawl gwyliau blynyddol EWTD i staff parhau.

  • Cyfraddau cyflog uwch

    Ar gyfer nosweithiau, penwythnosau a gwyliau banc yn ogystal ag ar gyfer staff sydd â sgiliau penodol i weithio ym maes gofal critigol a theatrau.

  • Datblygiad proffesiynol

    Hyfforddiant ymsefydlu â thâl, sifftiau ymgyfarwyddo a mynediad at gyrsiau a chynadleddau mewnol.

  • Sgiliau arbenigol

    Gall nyrsys arbenigol profiadol sydd ddim ond eisiau gweithio mewn arbenigedd penodol gael eu lletya mewn meysydd, fel gofal brys.

  • Cyfleoedd i fyfyrwyr nyrsio

    Rydym ni’n cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr nyrsio sy’n cofrestru fel gweithwyr cymorth gofal iechyd ar y banc i gael profiad o weithio mewn meysydd lle nad ydynt wedi ymgymryd â lleoliad drwy’r brifysgol.

  • Buddion y GIG

    Mynediad i gynllun pensiwn y GIG, gwisg am ddim, a mynediad at wasanaethau iechyd a lles galwedigaethol.

Amdanat ti

I ymuno â’n banc, byddwch yn ymrwymo i’r canlynol:

  • Ein gwerthoedd sefydliadol
  • Darparu gofal o safon uchel i’n cleifion
  • Cwblhau’r cyfnod ymsefydlu a’r hyfforddiant gofynnol
  • Sicrhau eich bod chi ar gael i weithio yn rheolaidd
Woman nurse smiling at camera
Woman nurse holding a clipboard to her chest, smiling at camera

Y broses recriwtio

Mae ein proses recriwtio yn cynnwys:

  • Cyfweliad wyneb yn wyneb gyda recriwtiwr banc
  • Darparu tystysgrifau cymhwyster priodol, prawf adnabod, geirdaon addas a chymhwysedd i weithio yn y DU
  • Bydd angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
  • Clirio gan Iechyd Galwedigaethol
Two female nurses smiling at male patient in hospital bed
Male medical professional with arms crossed smiling away from camera

Banc Nyrs

Nurse Bank Registration Form