Y Gymuned Leol

Os ydych chi’n ystyried symud i’r ardal, cewch hyd i amrywiaeth eang o grwpiau, digwyddiadau wedi’u trefnu a chyfarfodydd rheolaidd fel boreau coffi, partïon â thema, troeon cymdeithasol, nosweithiau ffilm a llawer mwy.

Five people, mixed ages and ehtnicities, smiling and talking in a cofee shop

Abertawe

Mae gan Abertawe ystod fawr o weithgareddau i chi gymryd rhan ymddyn nhw – popeth o weithdai crefftio ymarferol, sesiynau ioga ymlaciol, ac arddangosfeydd celf i bethau sy’n peri syndod fel pigo pwmpenni a ‘brinio diwaelod’ (bottomless brunch)! Beth bynnag sydd orau i chi.

Mae digwyddiadau a arweinir gan y gymuned a digwyddiadau tymhorol mwy eu maint yn cynnwys Arddangosfa Tân Gwyllt Cyngor Abertawe ar Noson Tân Gwyllt; llawer o ddigwyddiadau arswydus ar Nos Galan Gaeaf; Gwledd y Gaeaf ar y Glannau – profiad gaeafol hudol Abertawe; a Gorymdaith flynyddol y Nadolig Abertawe – mae pawb o bob oedran yn hoff iawn ohoni. Hefyd mae llu o ddigwyddiadau chwaraeon; digwyddiadau i blant, a digwyddiadau bwyd a diod sy’n digwydd drwy gydol y flwyddyn, cewch fwy o wybodaeth yma.

Os ydych chi’n edrych am rywbeth mwy mawreddog, mae gan Arena Abertawe restr o ddigwyddiad, rhwng sioeau a sioeau cerdd, i sioeau comedi a chyngherddau pop/roc. Cewch fwy o wybodaeth yma. Yn y cyfamser, mae lleoliadau celfyddyfau a pherfformio yn cynnig rhywbeth mwy agos – lleoliadau fel Oriel Celf Glynn Vivan, Canolfan Dylan Thomas, Theatr y Grand Abertawe, a Chanolfan Gelfyddydau Taliesin.
Bydd gan ddilynwyr chwaraeon ddiddordeb i wybod bod Abertawe yn lwcus i fod yn gartref i Bwll Cenedlaethol Cymru, sy’n addas ar gyfer sawl math o nofio ac mae ganddo bortffolio amrywiol o chwaraeon dŵr, ar gyfer dechreuwyr hyd at safon ryngwladol.

Mae cefnogwyr golff hefyd yn cael eu cynnal gyda chyrsiau yng Nghlun, Pennard a Threforys, yn ogystal â Phontardawe.

Agorwyd Stadiwm Swansea.com yn 2005 i roi cartref i CPD Dinas Abertawe (Yr Elyrch!) a Rygbi’r Gweilch tra’n rhoi cyfleuster i Abertawe fod yn falch ohono. Mae’r stadiwm, sydd â 21,000 o seddi, wedi dod yn un o’r lleoliadau chwaraeon blaenaf yn y wlad. Yn ogystal â dau dîm chwaraeon, mae bellach yn cynnal digwyddiadau chwaraeon yn ogystal â chyngherddau cerddoriaeth a werthwyd allan.

P’un ai ydych am roi cynnig ar weithgaredd am y tro cyntaf, neu am wella’ch sgiliau a’ch galluoedd neu’n athletwr cymwys, mae yna rywbeth at eich dant yn Abertawe. Caiacio, padlfyrddio tra’n sefyll i fyny, pŵer-farcuta, pêl-foli traeth ac amrywiaeth o weithgareddau eraill ar y traeth.

A young family of four walking, an amusement park in the background
Two women smiling walking with yoga mats in hand

Castell Nedd Port Talbot

Mae gan gymuned glos Castell-nedd lu o ddigwyddiadau hefyd i ddod â phobl ynghyd, gan gynnwys Mae’r cymunedau agos yng Nghastell-nedd Port Talbot hefyd yn cynnal ystod o ddigwyddiadau ar raddfa fawr ac ar raddfa fach a gynlluniwyd i ddod â phobl at ei gilydd. Mae’r rhain yn cynnwys sesiynau sgyrsio a chrefft ym Mhort Talbot, addysg i Ddysgwyr Cymraeg yng Nglyn-nedd, digwyddiadau Wild Tots yn Llansawel, a marchnad fisol ym Mhort Talbot.

I ddigwyddiadau grŵp llai, mae Castell-nedd Port Talbot yn cynnig sawl gweithdy gwahanol i ddewis rhyngddynt. P’un a ydych â diddordeb mewn ffotograffiaeth, TG, celf a llawer mwy, mae yna weithdy i’w ddilyn. Cewch fwy o wybodaeth yma:

I’r rhai ohonoch sydd â phlant sydd am gysylltu â rhieni eraill, mae llawer o ddigwyddiadau, grwpiau a chynulliadau cymdeithasol i’r holl deulu eu mwynhau a gwneud ffrindiau ynddynt.

Six women walking along a park path pushing buggies and chatting
A man in the foreground painting on a canvas, with a women in the background also painting

Symud i’r ardal

Darganfyddwch pam ddylech chi weithio i ni.

Gweler rhestr lawn o fuddion gweithwyr.