Therapïau Seicoleg a Seicolegol yn BIPBA

Mae ein Rhwydwaith Seicoleg yn cynnwys Seicolegwyr Ymarferol cymwysedig, Seicolegwyr Cyswllt Cymhwysol Clinigol, Seicolegwyr dan Hyfforddiant a Chynorthwyol a Myfyrwyr Gradd Meistr a Gradd ar Leoliad. Mae Ymarferwyr Seicolegol yn cael eu reoli gan Gyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC).

Mae ein Therapyddion Seicolegol yn staff sydd wedi cwblhau o leiaf un flwyddyn o hyfforddiant llawn amser mewn therapi seicolegol cydnabyddedig, mae nifer yn weithio tuag at achredu ffurfiol. Maent wedi’u hyfforddi i ddarparu therapi seicolegol Dwyster uchel ac isel, fel Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT), fel y gwelir yn Matrics Cymru a chanllawiau cenedlaethol eraill.

Mae Rhwydwaith Seicoleg a Therapïau Seicolegol BIP Bae Abertawe yn cynnig gofal cyffrous, unigol a ddarperir gan weithlu medrus iawn, gyda chyfleoedd i ddatblygu gyrfa.

Two hands holding eachother, one hand is white, and the other black
Cwnselydd Cleifion yn Siarad Hapus

Pam ddewis BIPBA ar gyfer swydd Seicoleg / Therapi?

Mae gennym dros 100+ o weithwyr proffesiynol o fewn y rhwydwaith seicoleg a therapïau seicolegol, sy’n cynnig y ddarpariaeth ar draws amrywiaeth o feysydd arbenigol er mwyn diwallu anghenion ein poblogaeth, gan gynnwys:

  • Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol
  • Gwasanaethau Iechyd Meddwl Oedolion
  • Ymyrraeth Gynnar mewn Seicosis
  • Anhwylderau bwyta · Trawma sy’n ymwneud â chyflyrau meddygol neu driniaeth
  • Iechyd Meddwl Pobl Hŷn
  • Gwasanaethau Amenedigol
  • Anabledd Dysgu · Gwasanaethau Plant / Pediatrig
  • Gwasanaethau diogelu a mewngymorth y carchar
  • Gwasanaeth Niwroseicoleg
  • Llosgiadau Rhanbarthol, Gwefus a Thaflod Hollt
  • Adsefydlu Cardiaidd
  • Rheoli Poen
  • Canolfan Aelodau Artiffisial a Chyfarpar Lymffoedem
  • Seicoleg Iechyd Galwedigaethol

Mae gennym cysylltiadau agos gyda Chwrs Gradd Meistr ym Mhrifysgol Abertawe ac yn cynnig rhaglen dreigl o leoliadau ar gyfer myfyrwyr ar y cwrs am gymorth i adeiladu ei CV. Mae gyrfa mewn seicoleg yn sywdd gwobrwyol ond mae’n cystadleuol ac yn heriol i’w ddilyn. Mae pobl yn aml yn cyfateb i seicoleg a therapi seicolegol, ond nid yw’r rhain yn rolau cyfwerth. Mae Seicolegwyr Ymarferol yn treulio llawer o’u hamser yn cymryd rhan mewn asesu, llunio, gweithio gyda gwasanaethau a thimau, addysgu, hyfforddi a goruchwylio cydweithwyr ochr yn ochr â rhywfaint o ddarpariaeth therapi seicolegol. Os mai eich angerdd yw darparu therapi seicolegol uniongyrchol ar gyfer y rhan fwyaf o’ch rôl, yna ystyriwch y llwybr hyfforddiant therapi seicolegol sy’n yrfa werth chweil a boddhaus. yn frwdfrydig i gefnogi ein staff i flodeuo a thyfu fel rhan o’u datblygiad proffesiynol parhaus, yn cefnogi dilyniant gyrfa ac addysg bellach yn weithredol.

Women-Swansea-Bay-Beach
Five people, mixed ages and ehtnicities, smiling and talking in a cofee shop

Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio i wella iechyd a lles pobl drwy Gymhwyso Seicoleg neu Therapi Seicolegol, gweler yma am ragor o wybodaeth am lwybrau gyrfaoedd:

Ariel view of beach in Swansea

Darganfyddwch pam ddylech chi weithio i ni.

Gweler rhestr lawn o fuddion gweithwyr.

Ar gyfer gwybodaeth am y Gwasanaethau Seicoleg Plant ac Iechyd Plant, ewch i’r gwefannau isod:

Female child building block tower with woman who is smiling
Woman nurse smiling with female colleague, holding a puppet

Rydym yn frwdfrydig i gefnogi ein staff i flodeuo a thyfu fel rhan o’u datblygiad proffesiynol parhaus, yn cefnogi dilyniant gyrfa ac addysg bellach yn weithredol.