Tai

Gyda’i hamgylchedd trefol bywiog a’i thraethau tywodlyd hygyrch, mae’n hawdd gweld pam mae ardaloedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yn ddewisiadau poblogaidd i deuluoedd, cyplau a gweithwyr proffesiynol ifainc sy’n dymuno symud.

Image of two teracced houses, one blue and one brown
Shot of a harbour, looking out to boats on the water

Wrth ystyried y cydbwysedd perffaith rhwng bywyd dinesig a glan-y-môr, Abertawe a Castell-nedd Port Talbot sy’n cymryd y goron.

Mae dinas Abertawe yn profi datblygiad sylweddol, gyda nifer o brosiectau tai ar y gweill, a fflatiau cyfoes newydd yn yr Ardal Forwrol. Mae prosiectau diweddar yn cynnwys parc arfordirol rhagorol Abertawe a agorwyd ym mis Mawrth 2022, ac yn gam cyntaf o brosiect ailddatblygu gwerth £135m yn yr ardal.

Mae cymunedau eraill mwy sefydledig yn cynnwys maestrefi Sgeti, Treforys a’r Mwmbwls, yn ogystal â’r pentrefi gwledig ar Benrhyn Gŵyr.

Am fwy o wybodaeth ar dai Abertawe, porwch drwy’r ganllaw ardal hon, neu ceisiwch gyngor gan yr awdurdod lleol.
Os ydych yn edrych i fyw yng Nghastell-nedd Port Talbot, mae’r ardal yn falch o’i phrisiau tai cystadleuol, gan eu bod yn sylweddol o ratach na’r dinasoedd mwy o’i hamgylch, fel Caerdydd. Gallwch wirio prisiau tai cymedrol ac argaeledd gydag asiantau ystadau lleol.

Mae sawl datblygiad tai newydd yng Nghastell-nedd Port Talbot gan gynnwys tai mewn trefi fel Glyn-nedd a phentrefi fel Y Creunant.

I weld mwy o dai ar werth ym mhob ardal o Gastell-nedd Port Talbot, ewch i Rightmove, lle byddwch yn gweld detholiad o dai ar werth gan ystod o asiantau ystadau lleol, neu Zoopla sydd â digon o wybodaeth ddiddorol am brisiau tai ac amrywiadau yn yr ardal.

Aerial view of terraced houses with a church in the background
Shot of a harbour looking out into the water, with buildings to the left

Symud i’r ardal

Darganfyddwch pam ddylech chi weithio i ni.

Gweler rhestr lawn o fuddion gweithwyr.