Prentisiaethau

Rydym ni’n cynnig cyfleoedd prentisiaeth ar gyfer nifer o rolau gwahanol sy’n rhoi cyfle gwych os ydych yn awyddus i ddechrau eich gyrfa gyda’r GIG.

Prentisiaethau yn BIP Bae Abertawe

Mae gennym ni gyfleoedd prentisiaeth ar draws ystod o adrannau.

O Weithwyr Cymorth Gofal Iechyd ar ein wardiau a’n Theatrau llawdriniaethau, i’n tîm Gwasanaeth Digidol ym Mhencadlys Baglan, mae rhai o’n rhaglenni’n cynnwys:

Two female colleagues looking at a laptop
Man sat at desk smiling at colleague who has their back to frame
  • Prentis Dadansoddwr Data Lefel 4 sydd newydd ei gyflwyno o fewn ein tîm trawsnewid
  • TGCh
  • Gweinyddiaeth Busnes
  • Porth Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd — fframwaith peilot, sydd eisoes wedi recriwtio chwe dysgwr newydd, gan ymgymryd â phrentisiaeth Porth HCSW lefel 2 am gyfnod o 12 mis. Yna, mae’r holl ddysgwyr yn cael cyfle i symud ymlaen i rôl HCSW barhaol yma ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.
  • Mae prentisiaethau ar gael ar lefel 2,3 a 4.

Beth yw prentisiaeth?

Mae prentisiaeth yn rhaglen hyfforddi seiliedig ar waith sy’n canolbwyntio ar y swydd gyfan, nid dim ond eich sgiliau unigol, a bydd yn darparu set o sgiliau a chymwysterau galwedigaethol a swyddogaethol i chi, gan gynnwys Saesneg, Mathemateg a TGCh.

Gall unrhyw un dros 16 mlwydd oed nad yw mewn addysg amser llawn wneud cais i fod yn brentis.

Cyflwynir cymwysterau prentisiaeth yn y gweithle, a byddwch yn dysgu ‘yn y gwaith’ wrth dderbyn hyfforddiant gan staff profiadol. Gall fod yn gyfle i staff newydd a staff presennol fel ei gilydd. Mae ein cyfleoedd prentisiaeth fel arfer yn para rhwng 12 mis a phedair blynedd, yn dibynnu ar y math o raglen.

Os ydych chi’n aelod presennol o staff, gallwch gofrestru ar ystod eang o gymwysterau sy’n gweddu i’ch rôl bresennol neu anghenion datblygu gyrfa, e.e. Arweinyddiaeth a Rheolaeth ILM, AAT (Cyfrifeg), Arwain Tîm, Gweinyddu Busnes (o lefelau 2-4), Gwasanaeth Cwsmeriaid, Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad, CIPD (AD), Rheoli Prosiectau, Cymorth Gofal Iechyd a TGCh.

Woman in glasses looking at camera
Two male and one female colleague looking at each other

Pam dewis BIP Bae Abertawe ar gyfer Prentisiaethau?

Mae tîm yr Academi Brentisiaid yn darparu cymorth o ansawdd uchel i’ch helpu gyda’ch taith gyrfa. Rydym ni’n gweithio’n agos gydag ystod eang o ddarparwyr hyfforddiant, a byddwch yn derbyn hyfforddiant rhagorol, cyfle i rwydweithio a chwrdd â phrentisiaid eraill ar eich taith, a fforwm i chi gyflwyno syniadau arloesol i newid ein gwasanaethau er gwell. Beth bynnag yw eich nodau gyrfa, byddwch yn dod o hyd i gymorth a chefnogaeth i sicrhau eich bod chi’n cyrraedd lle rydych eisiau bod.

Fel prentis yma byddwch yn cwrdd â’ch asesydd ac aelodau o’r Academi Brentisiaid i gael adolygiadau rheolaidd.

Rydym ni’n ymweld ag ysgolion a cholegau lleol ac yn gweithio gyda chanolfannau gwaith i hyrwyddo’r cyfleoedd prentisiaeth sydd ar gael ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ac yn cynnal digwyddiadau gyrfa prentisiaid i chi ddod i gwrdd â’r adrannau sydd â swyddi gwag.

Ein meysydd pwnc ar gyfer prentisiaethau:

  • Busnes
  • Gweinyddu
  • Gwasanaeth cwsmeriaid
  • TGCh
  • Gwaith warws
  • Cymorth gofal iechyd
  • Peirianneg drydanol
  • Ystadau/aml-grefft
  • Patholeg
  • Nyrsio deintyddol
  • Cyfathrebu digidol.
Hand holding pen and typing on keyboard
Hand pressing buttons on phone

Prentisiaethau

Apprenticeships Form