Gradd Arbenigol

Swydd newydd yma yng Nghymru sydd wedi cael ei lansio’n llwyddiannus yn ddiweddar.

Mae’r Radd Arbenigol yn rôl ymreolaethol uchel iawn sy’n eistedd rhwng Meddygon Arbenigol a Meddygon Ymgynghorol. I fod yn gymwys ar gyfer y rôl hon bydd angen i chi fod yn ôl-raddedig cyfwerth â deuddeng mlynedd o amser llawn a rhaid i chwech o’r rheiny fod yn yr arbenigedd perthnasol.

Bydd yr arbenigwr yn darparu gofal uniongyrchol i gleifion yn bennaf ac mae’n ofynnol iddo fod yn luniwr penderfyniadau arbenigol yn eu maes arbenigedd.

Yn ogystal â gweithio gyda thimau amlddisgyblaethol a’u harwain, mae gan y radd hon y cwmpas i ddarparu cyfleoedd datblygu mewn dyletswyddau rheoli ac arwain, ac i gyfrannu’n sylweddol at addysgu/hyfforddi, ymchwil, archwiliadau, gwelliannau ansawdd a datblygu gwasanaethau.

Mae gofyniad i ddangos datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) ac ymgysylltiad yn y broses Cynllunio Swyddi.

Darganfyddwch pam ddylech chi weithio i ni.

Gweler rhestr lawn o fuddion gweithwyr.