Cynorthwywyr radiograffeg a gweithwyr cymorth dedlweddu

Fel cynorthwyydd radiograffeg neu weithiwr cymorth delweddu, byddwch yn gweithio’n agos gyda radiograffwyr diagnostig sy’n defnyddio delweddu i weithio allan pa glefyd neu gyflwr sy’n achosi salwch claf a/neu radiograffwyr therapiwtig sy’n defnyddio dosau o belydrau-x ac ymbelydredd ïoneiddio arall i drin cyflyrau meddygol, fel canser a thiwmorau.

Bydd eich cyfrifoldebau’n cynnwys:

  • Prosesu delweddau
  • Archebu stociau o eitemau traul
  • Helpu gyda gweithdrefnau fel biopsïau
  • Sicrhau bod yr amgylchedd gwaith yn lân ac yn hylan
  • Paratoi cleifion ar gyfer triniaeth,
  • Archwilio’r offer a rhoi gwybod am ddiffygion
  • Mewnbynnu data

Darganfyddwch pam ddylech chi weithio i ni.

Gweler rhestr lawn o fuddion gweithwyr.