Cynorthwywyr radiograffeg a gweithwyr cymorth dedlweddu
Fel cynorthwyydd radiograffeg neu weithiwr cymorth delweddu, byddwch yn gweithio’n agos gyda radiograffwyr diagnostig sy’n defnyddio delweddu i weithio allan pa glefyd neu gyflwr sy’n achosi salwch claf a/neu radiograffwyr therapiwtig sy’n defnyddio dosau o belydrau-x ac ymbelydredd ïoneiddio arall i drin cyflyrau meddygol, fel canser a thiwmorau.
Bydd eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Prosesu delweddau
- Archebu stociau o eitemau traul
- Helpu gyda gweithdrefnau fel biopsïau
- Sicrhau bod yr amgylchedd gwaith yn lân ac yn hylan
- Paratoi cleifion ar gyfer triniaeth,
- Archwilio’r offer a rhoi gwybod am ddiffygion
- Mewnbynnu data
Darganfyddwch pam ddylech chi weithio i ni.
Gweler rhestr lawn o fuddion gweithwyr.