Cynorthwywyr ffisiotherapi/gweithwyr cymorth

Mae cynorthwywyr ffisiotherapi yn gwneud gwahaniaeth i fywydau ein cleifion bob dydd trwy eu helpu i wella o ystod o afiechydon a chyflyrau. Mae hefyd yn llwybr i ddod yn ffisiotherapydd.

Maen nhw’n tywys grwpiau o bobl trwy ymarferion a thechnegau ymlacio i’w helpu i reoli poen cronig. Maen nhw hefyd yn dysgu cleifion sut i ddefnyddio cymhorthion cerdded newydd ac yn nodi’r ffitiadau y gallai fod eu hangen arnyn nhw i fynd o gwmpas yn ddiogel.

Gan weithio gyda ffisiotherapydd, gallai eich gwaith gynnwys:

  • Gosod offer
  • Dangos i gleifion sut i ddefnyddio cymhorthion symudedd
  • Helpu cleifion i baratoi ar gyfer triniaeth (gan gynnwys helpu gyda gwisgo a dadwisgo)
  • Gweithio ar ymarferion gyda chleifion
  • Ysgrifennu adroddiadau a diweddaru cofnodion cleifion

Efallai y byddwch yn gweithio gydag unigolion neu grwpiau o bob oed a sefyllfa sydd ag ystod o gyflyrau, gan gynnwys:

  • Niwrolegol (Sglerosis Ymledol, Strôc, Parkinson’s)
  • Niwro-gyhyrysgerbydol (poen cefn, anhwylder cysylltiedig â chwiplach, anafiadau chwaraeon, arthritis)
  • Cardiofasgwlaidd (clefyd cronig y galon, adsefydlu ar ôl trawiad ar y galon)
  • Anadlol (asthma, clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint, ffibrosis systig)

Gallech fod yn gweithio mewn:

  • Adrannau cleifion allanol
  • Iechyd menywod
  • Gofal yr henoed
  • Gwasanaethau strôc
  • Orthopedeg
  • Gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
  • Iechyd galwedigaethol
  • Pediatreg

Darganfyddwch pam ddylech chi weithio i ni.

Gweler rhestr lawn o fuddion gweithwyr.