Cynorthwywyr ffisiotherapi/gweithwyr cymorth
Mae cynorthwywyr ffisiotherapi yn gwneud gwahaniaeth i fywydau ein cleifion bob dydd trwy eu helpu i wella o ystod o afiechydon a chyflyrau. Mae hefyd yn llwybr i ddod yn ffisiotherapydd.
Maen nhw’n tywys grwpiau o bobl trwy ymarferion a thechnegau ymlacio i’w helpu i reoli poen cronig. Maen nhw hefyd yn dysgu cleifion sut i ddefnyddio cymhorthion cerdded newydd ac yn nodi’r ffitiadau y gallai fod eu hangen arnyn nhw i fynd o gwmpas yn ddiogel.
Gan weithio gyda ffisiotherapydd, gallai eich gwaith gynnwys:
- Gosod offer
- Dangos i gleifion sut i ddefnyddio cymhorthion symudedd
- Helpu cleifion i baratoi ar gyfer triniaeth (gan gynnwys helpu gyda gwisgo a dadwisgo)
- Gweithio ar ymarferion gyda chleifion
- Ysgrifennu adroddiadau a diweddaru cofnodion cleifion
Efallai y byddwch yn gweithio gydag unigolion neu grwpiau o bob oed a sefyllfa sydd ag ystod o gyflyrau, gan gynnwys:
- Niwrolegol (Sglerosis Ymledol, Strôc, Parkinson’s)
- Niwro-gyhyrysgerbydol (poen cefn, anhwylder cysylltiedig â chwiplach, anafiadau chwaraeon, arthritis)
- Cardiofasgwlaidd (clefyd cronig y galon, adsefydlu ar ôl trawiad ar y galon)
- Anadlol (asthma, clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint, ffibrosis systig)
Gallech fod yn gweithio mewn:
- Adrannau cleifion allanol
- Iechyd menywod
- Gofal yr henoed
- Gwasanaethau strôc
- Orthopedeg
- Gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
- Iechyd galwedigaethol
- Pediatreg
Darganfyddwch pam ddylech chi weithio i ni.
Gweler rhestr lawn o fuddion gweithwyr.