Cynorthwywyr deieteg

Mae cynorthwywyr deieteg yn hanfodol wrth helpu pobl gyda’u diet a’u maeth. Maen nhw’n cefnogi pobl drwy eu cynghori ar sut y gall eu dewisiadau bwyd arwain at fywydau mwy cyflawn ac iachach.

Mae cynorthwywyr dieteteg yn gweithio gyda dietegwyr ar fwyd a maeth wrth asesu, diagnosio a thrin problemau dietegol a maethol. Mae’r tîm dieteteg hefyd yn hysbysu, addysgu a chynghori’r cyhoedd a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill am bwysigrwydd diet a maeth wrth gadw’n heini ac yn iach.

Gall cynorthwywyr deieteg ysbytai:

  • Helpu cleifion i ddewis o fwydlen yr ysbyty
  • Archebu cyflenwadau ar gyfer yr adran
  • Monitro bwyd claf
  • Mewnbynnu data ar gofnodion cleifion
  • Dangos i gleifion sut i ddefnyddio tiwbiau bwydo a phympiau
  • Pwyso cleifion
  • Esbonio cynllun deiet a maeth claf

Darganfyddwch pam ddylech chi weithio i ni.

Gweler rhestr lawn o fuddion gweithwyr.