Cynorthwywyr deieteg
Mae cynorthwywyr deieteg yn hanfodol wrth helpu pobl gyda’u diet a’u maeth. Maen nhw’n cefnogi pobl drwy eu cynghori ar sut y gall eu dewisiadau bwyd arwain at fywydau mwy cyflawn ac iachach.
Mae cynorthwywyr dieteteg yn gweithio gyda dietegwyr ar fwyd a maeth wrth asesu, diagnosio a thrin problemau dietegol a maethol. Mae’r tîm dieteteg hefyd yn hysbysu, addysgu a chynghori’r cyhoedd a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill am bwysigrwydd diet a maeth wrth gadw’n heini ac yn iach.
Gall cynorthwywyr deieteg ysbytai:
- Helpu cleifion i ddewis o fwydlen yr ysbyty
- Archebu cyflenwadau ar gyfer yr adran
- Monitro bwyd claf
- Mewnbynnu data ar gofnodion cleifion
- Dangos i gleifion sut i ddefnyddio tiwbiau bwydo a phympiau
- Pwyso cleifion
- Esbonio cynllun deiet a maeth claf
Darganfyddwch pam ddylech chi weithio i ni.
Gweler rhestr lawn o fuddion gweithwyr.