Cymrawd ymchwil clinigol

Mae’r rolau hyn fel arfer yn cael eu cynnig ar gontract 12 mis a gallant fod yn llwybr da i’ch rhoi chi ar y ffordd i gael eich MD, pe byddech chi’n dymuno gwneud hynny.

Fel cymrawd clinigol – sy’n cyfateb i uwch swyddog tŷ (SHO) neu gofrestrydd arbenigol iau (SPR) – mae angen i chi fod yn barod ac yn awyddus i ymgymryd â her prosiect ymchwil ochr yn ochr â’ch dyletswyddau clinigol. Bydd eich dyletswyddau clinigol wrth gwrs yn cynnwys cael eich neilltuo i glinigau ynghyd â dyletswyddau clinigol penodol, fodd bynnag, byddant yn llai na’r rhai a ddisgwylir gan gydweithwyr clinigol eraill.

O fewn rôl y cymrawd ymchwil clinigol bydd disgwyl i chi gynhyrchu papurau ar bwnc ymchwil a ddarperir gan ymgynghorydd yn yr adran. Bydd hyn yn golygu y bydd cyfran o’ch oriau gwaith yn cael ei neilltuo i ymgymryd â phrosiect ymchwil clinigol, a fydd yn cynnwys ysgrifennu, cyflwyno a chyhoeddi o leiaf un papur. I gyflawni hyn, byddai angen i chi fynychu seminarau a chynadleddau gwyddonol, cyflwyno darlithoedd ar eich ymchwil, a chyflwyno detholiadau o’ch ymchwil i gynadleddau perthnasol.

Darganfyddwch pam ddylech chi weithio i ni.

Gweler rhestr lawn o fuddion gweithwyr.