Cyfleoedd i nyrsys cymunedol

Mae’r tîm nyrsio cymunedol plant yn cael y fraint o weithio gyda llawer o blant, pobl ifanc a’u teuluoedd mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd a lleoliadau. Rydym ni bob amser yn ymdrechu i ddarparu’r gofal a’r cymorth gofynnol mewn amgylchedd lle gallant ffynnu a datblygu, gan sicrhau bod pob un yn cyrraedd ei botensial eithaf, beth bynnag fo hynny.

Rydym ni’n gweithio gyda llawer o blant bregus ac agored i niwed sydd ag anghenion iechyd cronig neu gymhleth, yn aml ar adegau tyngedfennol yn eu bywydau. Rydym ni hefyd yn gweld plant ar gyfer cyrsiau byr o driniaeth a gofal, fel gofal ar ôl llawdriniaeth neu fonitro tymor byr. Pa mor hir bynnag yw ein perthynas â’r plentyn neu’r person ifanc, ei deulu neu ofalwyr eraill, rydym ni bob amser yn darparu gwasanaeth hyblyg, cymwynasgar a meithringar.

Mae cyfleoedd datblygu gyrfa yn cynnwys:

  • Taith Rhagoriaeth Pediatrig Cymru
  • Rolau hyrwyddo, e.e. lles staff, gofal clwyfau, anabledd dysgu
  • Rolau cyswllt arbenigol, e.e. anadlol, ymataliaeth, oncoleg, newydd-anedig
  • Rolau arweinyddiaeth, rheoli, ymchwil, addysg a hyfforddiant
  • Astudiaeth ôl-raddedig
  • Gofal lliniarol
  • Asesydd nyrsio
  • Nyrsio LAC
  • Ymwelydd Iechyd

Darganfyddwch pam ddylech chi weithio i ni.

Gweler rhestr lawn o fuddion gweithwyr.