Nyrsio Oedolion
Nyrsio Oedolion
Mae Gwasanaethau Oedolion Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn darparu gofal cyfannol i ddinasyddion Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, yn ogystal â darparu ystod eang o ddarpariaethau gwasanaethau arbenigol i ardal ddaearyddol ehangach.
Nyrsio Oedolion yn BIP Bae Abertawe
Mae gyrfa mewn Nyrsio Oedolion yn BIP Bae Abertawe yn golygu y byddwch chi’n rhan o ddarparu gofal iechyd GIG â’i ansawdd wedi’i sicrhau yn y gymuned, lleoliadau cleifion allanol a chleifion mewnol, gydag ystod o dimau amlddisgyblaethol ar gael i chi.
Cyfleoedd
llwybr gyrfa
Bydd llawer o gyfleoedd i chi ddatblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth. Mae ystod eang o gyfleoedd i ofalu am oedolion, gan gynnwys ystod o wasanaethau arbenigol ar draws y Bwrdd Iechyd, gan gynnwys:
- Arbenigeddau llawfeddygol: gan gwmpasu meysydd dewisol a meysydd heb eu cynllunio gan gynnwys llosgiadau a phlastigau, orthopedig, asgwrn cefn, llawdriniaeth y genau a’r wyneb, gastroenteroleg, pancreatig a bariatrig
- Theatr: gan gynnwys cleifion mewnol a chleifion achos dydd
- Cardiaidd / cardiothorasig
- Adran Frys, meysydd asesu meddygol a llawfeddygol
- Wardiau strôc, anadlol, niwroleg, diabetes ac endocrin
- Arennol gan gynnwys dialysis arennol
- Meysydd dibyniaeth uchel a gofal dwys: fel llosgiadau a chardiaidd
Pam dewis BIP Bae
Abertawe ar gyfer Nyrsio?
Fel nyrs oedolion yn BIP Bae Abertawe byddwch yn rhan o dîm sy’n eich cefnogi a’ch gwerthfawrogi, ac yn un sy’n rhoi diwylliant ein gweithlu ar flaen ein timau.
Cefnogaeth
Byddwch yn derbyn cyflwyniad a sesiwn ymgyfarwyddo i’ch maes gwaith i sicrhau eich bod yn gyfarwydd â’r amgylchedd ac yn gallu gweithio’n effeithiol. Byddwn yn darparu hyfforddwr wedi’i ddyrannu i chi i gefnogi eich trosglwyddiad i’n hadran. Byddwch hefyd yn cael mynediad at oruchwyliaeth glinigol drwy gydol eich cyflogaeth gyda ni.
Byddwn yn gwerthfawrogi ac yn gwrando ar eich adborth a byddwn yn gweithio mewn partneriaeth i ddatrys unrhyw bryderon sydd gennych chi. Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe byddwch yn aelod gwerthfawr o’r tîm amlddisgyblaethol a gallwch ddisgwyl cefnogaeth gan eich holl gydweithwyr.
Diwylliant
Byddwn yn darparu diwylliant cadarnhaol yn y gweithle lle caiff dysgu a datblygu eu hannog, a lle mae datblygiad proffesiynol yn cael ei gymeradwyo.
Darganfyddwch pam ddylech chi weithio i ni.
Gweler rhestr lawn o fuddion gweithwyr.
Ein rolau
Mae amrywiaeth eang o rolau amrywiol sy’n ymwneud â nyrsio sy’n gysylltiedig
â’r nifer o dimau amlddisgyblaethol sy’n bodoli yn y Bwrdd Iechyd, er enghraifft:
Rolau rheoli o fewn meysydd clinigol a rheoli nyrsio
Mae yna hefyd lawer o rolau rheoli ym maes Nyrsio. Mae'n debyg y byddwch chi’n gyfrifol...
Nyrs glinigol arbenigol
Mae Nyrs Glinigol Arbenigol yn darparu gofal uniongyrchol i gleifion, ac fel arfer yn gweithio o fewn arbenigedd...
Nyrsio ar wardiau ac adrannau
Gan weithio ar ward neu adran fel nyrs, byddwch yn gyfrifol am gynnal profion a gwiriadau...
Ymarferwyr nyrsio
Mae ymarferwyr nyrsio yn nyrsys arbenigol hyfforddedig. Gallant ddarparu triniaeth a chyngor ar gyfer llawer o faterion...
Gwybodaeth
ychwanegol
Mae datblygiadau cyffrous yn digwydd yn y Bwrdd Iechyd, sy’n cynnwys:
- Ehangu theatr, yn enwedig yn ein canolfan ragoriaeth Orthopedig ar ein safle yng Nghastell-nedd Port Talbot; ac
- Ailgynllunio gwasanaeth meddygol ein gwasanaeth AMSR acíwt, ar ein safleoedd Singleton a Threforys.
Mae ymdeimlad gwirioneddol o berthyn
yn y bwrdd iechyd ac yn fy nghymuned leol