Gwyddor Gofal Iechyd ac AHP
Gwyddor Gofal Iechyd ac AHP
Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, mae’r Cyfarwyddwr Gweithredol Therapïau a Gwyddor Iechyd yn darparu arweinyddiaeth ar bob agwedd ar lywodraethu corfforaethol ar gyfer y proffesiynau therapi a gwyddor iechyd ac mae ganddo atebolrwydd a chyfrifoldeb proffesiynol dros yr holl staff a reoleiddir gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC).
Y Cyfarwyddwr Therapïau a Gwyddor Iechyd yw prif arweinydd a ffynhonnell cyngor y Bwrdd ar bob agwedd ar wasanaethau therapi a gwyddor iechyd. Mae’r Cyfarwyddwr Therapïau a Gwyddor Iechyd yn chwarae rôl arweiniol ganolog wrth ddatblygu’r cyfeiriad strategol a hyrwyddo arloesedd ac ymchwil; gan weithio mewn partneriaeth â’r Cyfarwyddwr Meddygol a’r Cyfarwyddwr Nyrsio a’r tîm gweithredol ehangach. Mae’r Cyfarwyddwr yn sicrhau bod staff therapi a gwyddor iechyd yn ymgysylltu ac yn canolbwyntio ar wella iechyd a lles ein poblogaethau, lleihau anghydraddoldebau iechyd ac ymgorffori diwylliant o welliant parhaus yn ansawdd ein darpariaeth gofal.
Mae’r Cyfarwyddwr Therapïau a Gwyddor Iechyd wedi’i leoli ym mhencadlys y Bwrdd Iechyd, yn rhan o’r strwythur gwasanaethau Corfforaethol ac yn cael ei gefnogi gan Ddirprwy Gyfarwyddwr Therapïau a Gwyddor Iechyd, dau Gyfarwyddwr Cynorthwyol a thîm rheoli busnes a gweinyddol.
Pam dewis BIPBA ar gyfer Iechyd Perthynol?
Mae ein gweithwyr Therapïau a Gwyddor Iechyd proffesiynol yn weithlu arbenigol amrywiol sydd â’r sgiliau i helpu i drawsnewid y GIG, gan chwarae rôl hanfodol wrth ymateb i’r heriau sy’n wynebu ein system iechyd a gofal cymdeithasol.
Yma yn BIP Bae Abertawe rydym yn cyflogi tua 1,100 o AHP ac ychydig dros 400 o wyddonwyr gofal iechyd. Rydym yn gwerthfawrogi ein gweithwyr proffesiynol ym maes therapïau a gwyddorau iechyd ac yn cydnabod eu gwaith ar bob lefel yn trefnu digwyddiadau dysgu a chynadleddau i ddathlu llwyddiant, i arddangos arloesedd, talent ac arbenigedd ein gweithlu. Cefnogir datblygiad proffesiynol parhaus, gan ddarparu cyfleoedd i wella ymarfer a chefnogi unigolion ar eu llwybr gyrfa. Mae cysylltiadau sefydledig gyda’n partneriaid yn y Brifysgol, Colegau lleol ac ysgolion. Mae staff BIPBA hefyd wedi derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol am eu gwaith ar ôl derbyn nifer o wobrau gan gynnwys y Gwobrau Cenedlaethol Hyrwyddo Gofal Iechyd.
Mae’n amser cyffrous i ymuno â BIPBA fel AHP neu Wyddonydd Gofal Iechyd wrth i ni ddatblygu ein gweledigaeth i drawsnewid gofal brys ac mewn argyfwng, gofal wedi’i gynllunio a gofal sylfaenol a chymunedol. Mae cyfleoedd newydd i wireddu cyfraniad y gweithlu hwn yn yr agenda atal ac iechyd y cyhoedd a chefnogi bywydau iachach; ar drawsnewid gofal y tu allan i’r ysbyty a sicrhau bod gwasanaethau’n fwy integredig a hygyrch i bob oed ar draws sawl cyflwr ar gyfer gwasanaethau rhanbarthol a lleol. Fel AHP a Gwyddonwyr Gofal Iechyd yn BIPBA cewch gyfle i arwain a siapio modelau gofal newydd.
Gwasanaethau Gwyddor Iechyd yn BIPBA
Awdioleg
Ffisioleg Cardiaidd, Anadlol
Patholeg Cellog
Radioleg Diagnostig
Meddygaeth Labordy
Darlunio Meddygol
Ffiseg Feddygol/Peirianneg Glinigol
Niwroffisioleg
Ymarferwyr yr Adran Lawdriniaeth
Darlifiad
Peirianneg Ailadeiladol
Gwyddoniaeth Atgenhedlu
Radiotherapi Therapiwtig
Gwasanaethau Therapi yn BIPBA
Deieteg
Therapi Galwedigaethol
Orthopteg
Ffisiotherapi
Podiatreg
Orthoteg a Phrostheteg
Seicoleg
Therapi Iaith a Lleferydd
Darganfyddwch pam ddylech chi weithio i ni.
Gweler rhestr lawn o fuddion gweithwyr.
Ein rolau
Gweithiwyr proffesiynol perthynol i Iechyd
Gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yw'r trydydd gweithlu clinigol mwyaf yn y GIG...
Gwyddonwyr gofal Iechyd
Mae gwyddonwyr gofal iechyd yn chwarae rhan hanfodol yn y GIG, maen nhw’n helpu i atal...
Mae ymdeimlad gwirioneddol o berthyn
yn y bwrdd iechyd ac yn fy nghymuned leol