Ein Buddion
Ein Buddion
Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe rydym ni’n credu y dylai ein staff dderbyn gofal da. Dyna pam rydym ni’n cynnig amrywiaeth o fuddion, rhai yn rhan o’r GIG ac eraill yn gyfyngedig i’n Bwrdd Iechyd.
Cipolwg:
-
Datblygiad
Ein nod yw ‘datblygu ein dawn ein hunain’ a chael cyfleoedd hyfforddi a datblygu cyflogedig rhagorol ar waith, gyda chefnogaeth absenoldeb astudio.
-
Gwyliau Blynyddol Hael
28 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn YNGHYD â gwyliau banc pan fyddwch yn cael eich penodi, yn codi i 30 diwrnod ar ôl pum mlynedd a 34 diwrnod ar ôl deng mlynedd o wasanaeth. ‘Cynllun Prynu Gwyliau’ hefyd ar gael.
-
Iechyd Galwedigaethol a lles staff
Mae gan bob gweithiwr fynediad at ein gwasanaethau Iechyd Meddwl Iechyd, sy’n gallu cefnogi staff sydd ag anghenion lles emosiynol, yn ogystal â materion MSK (Cyhyr-ysgerbydol).
-
Parcio am ddim
Ym mhob un o’n safleoedd ysbytai
-
Cynllun prydlesu ceir
-
Cynllun beicio ar gyfer iechyd
Manteision beicio i’r gwaith; beth am fod â ffordd o fyw iachach, lleihau eich ôl troed carbon a thorri costau cymudo? Mae terfyn o £3,000 i ddarparu amrywiaeth ehangach o feiciau gan gynnwys e-feiciau. Ewch i www.cycle2work.info am fwy o wybodaeth. Mae sesiynau ‘meddygon’ beiciau ar gael hefyd drwy gydol y flwyddyn lle gall yr holl staff ddod â’u beiciau draw i gael eu gwasanaethu AM DDIM (mae’r gwaith atgyweirio yn cynnwys pynctiars brêcs a cheblau, a throi geriau).
-
Cynllun Pensiwn Cyfrannol Ardderchog
Mae Cynllun Pensiwn y GIG yn parhau i fod yn un o’r cynlluniau mwyaf cynhwysfawr a hael yn y DU ac mae’n rhan allweddol o’r cynnig gwobrwyo i weithwyr yn y GIG. Mae’r manteision yn cynnwys; rhyddhad treth, hyblygrwydd a chyfraniad gan gyflogwr.
-
Gostyngiadau’r GIG
Cyfle i fanteisio ar amrywiaeth o gynlluniau gan gynnwys Cerdyn Golau Glas.
Byd o gyfleoedd
Rydym ni nid yn unig yn gofalu am boblogaeth Abertawe a Chastell-nedd, ond mae ein gwasanaethau trydyddol yn mynd y tu hwnt ac mor bell i ffwrdd â De-orllewin Lloegr.
Drwy ymuno â ni, byddwch yn dod i gysylltiad ag ystod eang o gyfleoedd gyrfa trwy ein gwasanaethau, sy’n cynnwys:
- Gwasanaethau rhanbarthol ar gyfer cardioleg, llawfeddygaeth gardiothorasig, plastigau, trawma, arennol, strôc a niwroleg
- Gwasanaeth gwefusau a thaflod hollt pediatrig cenedlaethol i boblogaeth o 2.3 miliwn
- Sefydliad Llawfeddygaeth Gordewdra a Metabolaidd Cymru
- Canolfan Llosgiadau a Llawfeddygaeth Blastig Cymru, sy’n darparu gwasanaeth i Dde a Chanolbarth Cymru a De-orllewin Lloegr
- Canolfan Ganser De-orllewin Cymru gyda Chanolfan Maggie’s newydd wych wedi’i hadeiladu ar ei thir
- Gwasanaeth Adsefydlu Niwro Rhanbarthol
- Gwasanaethau Iechyd Meddwl Fforensig (ar gyfer De Cymru gyfan)
- Gwasanaethau Anabledd Dysgu (o Abertawe i Gaerdydd)
- Gofal Dwys Newydd-anedig Rhanbarthol
- Obstetreg dan arweiniad meddygon ymgynghorol yn Ysbyty Singleton, sy’n delio â’r achosion mwyaf cymhleth o bob rhan o Dde-orllewin Cymru
- BIP Bae Abertawe sy’n rheoli gwasanaeth IVF y GIG ar gyfer De Cymru
- Mae Ysbyty Treforys hefyd yn cynnal llawdriniaethau agored ar y galon yn ei Ganolfan Gardiaidd, un o ddau ysbyty yn unig yng Nghymru sy’n darparu’r gwasanaeth hwn; (Caerdydd yw’r llall)
Nid yw’r cyfan yn ymwneud â gofal yn yr ysbyty
Ar hyn o bryd rydym ni’n cyflwyno wardiau rhithwir yn y gymuned, gyda thimau amlddisgyblaethol ar wahân, gan dargedu anghenion iechyd a gofal cymdeithasol penodol y boblogaeth glwstwr rydym ni’n eu gwasanaethu.
Rydym ni hefyd yn rhan o Gydweithrediad Rhanbarthol ar gyfer Iechyd (ARCH), partneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Phrifysgol Abertawe. Mae ARCH yn brosiect cydweithredu unigryw sydd â’r nod o wella iechyd, cyfoeth a lles De-orllewin Cymru, felly mae’n amser cyffrous i ymuno â’r sefydliad.
Mae gweithio mewn Bwrdd Iechyd gyda chymaint o wasanaethau trydyddol yn cynnig llawer iawn o gyfle a phrofiad i’w hymgorffori yn eich gyrfa. Cysylltwch â ni heddiw i ddarganfod beth allai eich cam nesaf chi fod!
Mae ymdeimlad gwirioneddol o berthyn yn y
bwrdd iechyd ac yn fy nghymuned leol