Ynglŷn â Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Crëwyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (ABMU gynt) ar 1 Ebrill 2019, ac mae’n gwasanaethu poblogaeth o tua 390,000 yn ardaloedd Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe.
- 49 Practis
Meddyg Teulu - 31 fferyllfa
gymunedol - 72 practis deintyddol
gan gynnwys orthodeintyddion - 92 practis
optometreg - 01 Gwasanaethau iechyd meddwl
ac anableddau dysgu - 01 CANOLFAN LLOSGIADAU A LLAWFEDDYGAETH BLASTIG CYMRU YN YSBYTY TREFORYS
Ein Hysbytai
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn cynnwys tri phrif ysbyty: Treforys a Singleton yn Abertawe ac Ysbyty Castell-nedd Port Talbot ym Maglan, Port Talbot.
Mae yna hefyd ysbyty cymunedol a sawl canolfan adnoddau gofal sylfaenol sy’n darparu gwasanaethau clinigol y tu allan i’r prif ysbytai; ynghyd ag ystod lawn o wasanaethau gofal iechyd arbenigol a lleol gan gynnwys 49 practis meddyg teulu ac uned losgiadau cwbl weithredol.
Ysbyty Treforys
Mae Ysbyty Treforys yn un o’r ysbytai mwyaf yng Nghymru.
Dyma’r ysbyty trydyddol acíwt rhanbarthol ar gyfer de-orllewin Cymru, sy’n cynnig ystod o wasanaethau arbenigol, gan gynnwys trawma ac orthopedeg, meddygaeth arennol, niwroleg, llawfeddygaeth y genau a’r wyneb ac mae’n cynnal y gwasanaeth gwefus a thaflod hollt rhanbarthol i blant ac oedolion.
Mae’n cynnig un o ddwy ganolfan gardiaidd yng Nghymru ac mae’n gartref i Ganolfan Llosgiadau a Llawfeddygaeth Blastig Cymru, a hefyd y gwasanaeth bariatrig (gwasanaeth gordewdra) i Gymru. Mae ganddo uned gofal dwys gyfoes.
Mae gan Ysbyty Treforys un o’r adrannau brys prysuraf yng Nghymru. Mae Bae Abertawe yn gartref i Wasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys Cymru (EMRTS), a elwir hefyd yn Feddygon Hedfan, ac mae’r gwasanaeth yn gweithio’n agos gydag Ysbyty Treforys.
Mae hefyd yn darparu gwelyau meddygol acíwt ac ystod eang o wasanaethau llawfeddygol ac wrolegol, wardiau plant ac uned dibyniaeth fawr i blant. Mae ganddo ystod lawn o wasanaethau diagnostig a therapiwtig o ansawdd uchel, a gwasanaethau cleifion allanol.
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae Ysbyty Treforys wedi cael ailddatblygiad gwerth dros £100m gydag adeiladau newydd yn cymryd lle’r ystâd cyn y rhyfel. Yn fwyaf diweddar mae wedi cael buddsoddiad mawr wrth adeiladu’r Uned Feddygol Acíwt newydd.
Ysbyty Castell-nedd Port Talbot
Agorwyd ysbyty diweddaraf Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, sef Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, yn 2003 ac mae ganddo tua 200 o welyau.
Mae Ysbyty Castell-nedd Port Talbot yn darparu amrywiaeth o wasanaethau cleifion mewnol a chleifion allanol, yn ogystal â rhai gwasanaethau arbenigol, gan gynnwys ffrwythlondeb a niwroadsefydlu. Hefyd, mae gan gleifion fynediad i’r Ganolfan Diagnosis Cyflym arloesol, sy’n cynnig gwasanaethau diagnostig i’r cleifion hynny nad yw eu symptomau yn ffitio i unrhyw un o’r llwybrau atgyfeirio presennol.
Ym mis Mehefin 2023, agorwyd cyfadeilad theatr lawdriniaeth newydd gwerth £21m, gan gynnig ehangu llawdriniaeth wedi’i chynllunio ar gyfer orthopaedeg ac wroleg.
Mae’r Uned Mân Anafiadau ar agor saith diwrnod yr wythnos. Mae gwasanaethau eraill yn cynnwys canolfan ystafell wroleg, endosgopi, llawfeddygaeth orthopedig a chyffredinol wedi’i chynllunio, llawfeddygaeth ddydd, gofal i’r henoed, rhewmatoleg, a radioleg.
Mae Uned Ddydd Afan Nedd yn darparu ystod o wasanaethau amlddisgyblaethol i gleifion â phroblemau iechyd lluosog, tra bod yr uned gofal lliniarol yn darparu therapi arbenigol a chymorth i gleifion canser.
Mae gan yr ysbyty hefyd uned asesu plant, canolfan blant a gwasanaethau iechyd meddwl cleifion mewnol.
Dewiswyd Castell-nedd Port Talbot gan Gomisiwn Bevan fel Hwb Arloesedd Bevan, gan arwain y ffordd ar gyfer gwella ansawdd yn GIG Cymru.
Ysbyty Singleton
Mae Ysbyty Singleton, sy’n edrych dros Fae Abertawe, yn cynnal ystod o wasanaethau. Mae’n darparu uned famolaeth ranbarthol a arweinir gan feddygon ymgynghorol ac uned gofal dwys newyddenedigol. Mae gwasanaethau eraill yn cynnwys offthalmoleg, y glust y trwyn a’r geg, a gwasanaethau cenhedlol-wrinol.
Mae Canolfan Ganser De Orllewin Cymru yn Ysbyty Singleton hefyd, ynghyd â Chanolfan Maggie’s wedi’i lleoli ar ei dir. Cynhelir trawsblannu mêr esgyrn gan y gwasanaeth haematoleg.
Mae gan Singleton uned llawdriniaeth ddydd bwrpasol a gafodd ei hehangu yn 2022 i gynnwys theatr newydd gwerth £4m ar gyfer llawdriniaethau llygaid.
Bydd Ysbyty Singleton yn derbyn newidiadau sylweddol dros y blynyddoedd nesaf. Yn y pen draw, y weledigaeth yw bod Singleton yn chwarae rhan allweddol fel campws iechyd arloesol sy’n cynnig gwasanaethau, gofal a gwerthoedd yr 21ain ganrif. Rhan bwysig o hyn yw datblygiad parhaus gofal dydd – gwasanaethau lle mae cleifion yn cael mynediad cyflymach at driniaeth heb fod angen aros dros nos.
Ysbyty Gorseinon
Mae Ysbyty Gorseinon yn ganolfan adsefydlu bwrpasol ar gyfer yr henoed.
Mae cleifion yng Ngorseinon yn cael eu trin gan dîm arbenigol o ffisiotherapyddion a therapyddion galwedigaethol i gyrraedd cyflwr diogel ar gyfer rhyddhau cleifion.
Fel gyda’n holl ysbytai, mae llesiant ac annibyniaeth yn flaenoriaethau enfawr yng Ngorseinon, ac anogir cleifion i gymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp ac i godi, gwisgo a symud pan fyddant yn teimlo y gallant wneud hynny.
Mae gan Ysbyty Gorseinon wasanaethau cleifion allanol hefyd, clinig poeth, clinig cwympiadau dan arweiniad nyrsys, clinig clwyfau a chanolfan Parkinson.
Cyfleusterau iechyd
meddwl arbenigol
Ysbyty Cefn Coed
Mae Cefn Coed yn gyfleuster iechyd meddwl gyda thri chlinig arbenigol.
Clinig Tawe: Gwasanaethau Iechyd Meddwl Cleifion Mewnol
Mae Tawe yn darparu asesiadau, ymyriadau therapiwtig, a chefnogaeth i’r rhai sy’n profi pwl meddyliol acíwt lle mae angen gofal cleifion mewnol.
Mae dwy ward — mae Fendrod yn darparu gofal i ddynion, a Clyne yn darparu gofal i fenywod. Mae gofal plant a’r glasoed yn cael ei ddarparu drwy rwydwaith clinigol o ddarparwyr CAMHS (gwasanaeth iechyd meddwl plant a’r glasoed).
Gwelfor: Gwasanaethau Iechyd Meddwl Oedolion
Uned adsefydlu llif araf 18 gwely newydd gyda dau dŷ pedair ystafell wely ar gyfer gofal llai dwys.
Mae Gwelfor yn darparu llwybr adsefydlu diwygiedig i gleifion iechyd meddwl, gan weithio gyda nhw i gynyddu eu hannibyniaeth cyn eu rhyddhau.
Ysbryd y Coed: Gwasanaethau Iechyd Meddwl Pobl Hŷn
Mae’r uned 60 gwely hon ar draws tair ward yn darparu gofal arbenigol iawn i bobl hŷn â dementia.
Mae gan y wardiau siâp hirgrwn 16 ystafell en-suite, a dwy ystafell sengl en-suite ar gyfer cyplau, teulu neu barau o ffrindiau. Mae’r wardiau wedi’u cynllunio’n unigryw i ddarparu dolen grwydro ddiogel i helpu cleifion i lywio’r wardiau a’r ardaloedd therapiwtig.
Ysbyty Tonna
Mae cyfleuster iechyd meddwl Ysbyty Tonna yn arbenigo mewn gofal i’r henoed, ac mae hefyd yn gartref i Uned Gobaith, yr unig uned iechyd meddwl amenedigol arbenigol ar gyfer mamau a babanod yng Nghymru.
Taith Newydd
Wedi’i lleoli yn Ysbyty Glanrhyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae Taith Newydd yn uned iechyd meddwl diogel isel, gwerth £16.4 miliwn.
Mae gan y ganolfan 28 ystafell wely sengl gyda chyfleusterau en-suite ar draws dwy ward, ac mae gan bob un ystafelloedd gemau, ceginau a champfa.
Mae gan gleifion fynediad i ystafelloedd eistedd un rhyw ar gyfer cymdeithasu, mannau preifat wedi’u cynllunio’n arbennig ar gyfer ymweliadau teuluol, ac ardaloedd gardd diogel ar gyfer awyr iach ac ymarfer corff.
Clinig Caswell
Mae Caswell yn uned iechyd meddwl fforensig ddiogel ganolig.
Mae’r cyfleuster hwn yn darparu gwasanaethau arbenigol i bobl sy’n droseddwyr, neu sydd â’r potensial i droseddu, ac mae’n cymryd cleifion o bob cwr o Gymru.
Gwasanaethau gofal
iechyd allweddol eraill
Practisau Meddyg Teulu
Mae ein meddygon teulu yn gweithio ochr yn ochr ag ystod eang o weithwyr iechyd proffesiynol mewn meddygfeydd lleol a chanolfannau iechyd ar draws yr ardal. Mae 49 o bractisau meddygon teulu ar draws ardal Bae Abertawe.
Gofal Deintyddol
Mae ardal Bae Abertawe yn gartref i 72 o ddeintyddfeydd, gan gynnwys orthodontyddion.
Mae dau o bractisau deintyddol Abertawe, Eastside Dental yng Nghanolfan Iechyd Beacon a deintyddfa Belgrave yn Uplands, yn rhan o gynllun peilot arloesol sydd i’w gyflwyno ledled Cymru dros y blynyddoedd nesaf. Bwriad y cynllun yw helpu deintyddion i weld mwy o gleifion drwy ganolbwyntio ar atal yn hytrach na gwella.
Mae’r cynllun eisoes wedi caniatáu i un o’r practisau drin dros 3,000 yn fwy o gleifion.
Optometreg
Mae gan Abertawe 31 o bractisau optometreg.
Mae’r Gwasanaeth Archwiliad Iechyd Llygaid yn cynnig asesiadau am ddim i gleifion ar gyfer mân faterion. Gall Optometryddion yng Nghymru hefyd gynnig Gwasanaeth Golwg Gwan, gan roi un asesiad llawn am ddim y flwyddyn i’r rhai sydd â chyflyrau llygaid presennol.
Fferyllfeydd
Mae 92 o fferyllfeydd cymunedol yn ardal Bae Abertawe. Gall ein fferyllwyr gynnig ymgynghoriadau a darparu meddyginiaeth presgripsiwn yn unig ar gyfer nifer o anhwylderau yn uniongyrchol o’u practis lleol. Maen nhw hefyd yn darparu triniaethau dros y cownter ar gyfer cyflyrau bob dydd.
Sianelu pŵer digidol
Rydym ni’n cydnabod pwysigrwydd adnoddau digidol o ran gwella gofal, diogelwch ac ansawdd cleifion tra hefyd yn cyflawni newid trawsnewidiol.
Mae ein tîm digidol yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr nyrsio i ddylunio, datblygu a gweithredu systemau i alluogi cyflawni newid trawsnewidiol, tra hefyd yn sicrhau bod ein cynnig yn unol â disgwyliadau cynyddol technoleg ym mywydau beunyddiol pobl.
Yma yn BIP Bae Abertawe rydym ni’n manteisio i’r eithaf ar adnoddau digidol ac yn ei ddefnyddio i drawsnewid iechyd a gofal pobl. Byddwch yn defnyddio datrysiadau digidol fel:
- Rhagnodi Electronig mewn Ysbytai a Gweinyddu Meddyginiaethau (HEPMA)
- Dogfennaeth Nyrsio Electronig a Chofnod Gofal Nyrsio Cymru (WNCR)
- Datrysiad Bwrdd Gwyn Electronig (SIGNAL)
Porth Cleifion Bae Abertawe a Nyrsio Digidol
Bydd cleifion a’u gofalwyr hefyd yn ymgysylltu drwy ddefnyddio Porth Cleifion Bae Abertawe, gan eu grymuso i weithio’n agosach gyda chi ar reoli eu gofal.
Mae ymdeimlad gwirioneddol
o berthyn yn y bwrdd iechyd
ac yn fy nghymuned leol