
Uwch-dechnegydd Fferylliaeth (Bandiau AfC 6 ac uwch)
Mae technegwyr o fewn ein strwythur rheoli uwch yn gyfrifol am reoli timau o fewn fferylliaeth. Mae ganddynt brofiad sylweddol mewn gweithgarwch arwain a rheoli, gan arwain ar bolisi, prosiectau a mentrau lleol a chenedlaethol a rheoli staff o fewn eu safle neu eu cyfarwyddiaeth. Maen nhw’n gweithio’n annibynnol i gynllunio, trefnu a rheoli anghenion meddyginiaeth gwasanaeth neu grŵp o gleifion. Byddant wedi ymgymryd ag achrediad a hyfforddiant pellach i ddatblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau fferyllol ac ymgymryd â gweithgarwch arwain, rheoli neu ymchwil. Mae pob uwch-dechnegydd fferylliaeth yn ymgymryd â rolau sy’n wynebu cleifion, gan gynnwys gofal sylfaenol, cefnogi cleifion i gael y defnydd gorau o’u meddyginiaethau a byw’n annibynnol.
Darganfyddwch pam ddylech chi weithio i ni.
Gweler rhestr lawn o fuddion gweithwyr.