Technegydd fferyllfa rheoli meddyginiaethau 
(AfC Band 4-5)

Mae technegwyr Rheoli Meddyginiaethau (MM) yn gyfrifol am gyflenwi meddyginiaethau yn ddiogel, yn effeithlon ac yn effeithiol ar draws wardiau ysbytai, fferyllfa a gwasanaethau technegol. Mae technegwyr MM hefyd yn darparu gwasanaethau mewn gofal sylfaenol, gan weithio gyda phractisau meddygon teulu a lleoliadau gofal eraill. Maen nhw’n ymgynghori â chleifion a chydweithwyr gofal iechyd, gan weithio ochr yn ochr â fferyllwyr i sicrhau trawsnewidiadau di-dor mewn gofal a sicrhau bod meddyginiaethau diogel ac effeithiol yn cael eu defnyddio yn yr ysbyty a’r gymuned. Mae technegwyr MM yn ymgymryd â hanes meddyginiaeth, yn arwain timau wrth reoli presgripsiynau rhyddhau ac yn gyfrifol am reoli a chyflenwi meddyginiaethau a ddosberthir. O fewn asepteg, maen nhw hefyd yn gyfrifol am feddyginiaethau a baratowyd yn aseptig a rhyddhau cynnyrch. Fel arfer, bydd technegydd MM mwy datblygedig (AfC 5) wedi ymgymryd ag achrediad a hyfforddiant pellach i ymestyn eu gwybodaeth a’u sgiliau fferyllol ac ymgymryd â gweithgarwch arwain, rheoli neu ymchwil.

Darganfyddwch pam ddylech chi weithio i ni.

Gweler rhestr lawn o fuddion gweithwyr.