Swyddog Technegol Cynorthwyol (ATO) /Cynorthwyydd Fferylliaeth (AfC Band 2-3)

Mae cynorthwywyr fferyllfa yn gyfrifol am gydosod a dosbarthu eitemau yn erbyn presgripsiynau a rheoli cyflenwadau stoc a storio. Mae cynorthwywyr fferyllfa yn gweithio ar draws ein gwasanaethau ysbytai a gofal sylfaenol (cartrefi gofal a chartrefi cleifion eu hunain) yn adolygu’r defnydd o feddyginiaethau. Maen nhw hefyd yn gweithio ym maes asepteg yn paratoi meddyginiaethau mewn ystafelloedd glân arbenigol. Mae dyletswyddau arferol yn cynnwys derbyn stoc gan gyflenwyr, dosbarthu a chasglu eitemau fferyllol ar draws adrannau, a lleihau gwastraff meddyginiaeth. Maen nhw hefyd yn cysylltu â chydweithwyr gofal iechyd ac aelodau o’r cyhoedd drwy gymryd rhan mewn dyletswyddau derbynfa yn ein fferyllfeydd.

Darganfyddwch pam ddylech chi weithio i ni.

Gweler rhestr lawn o fuddion gweithwyr.