Staff cymorth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn awyddus i ddarparu ar gyfer datblygu ein staff cymorth. Y rolau sydd ar gael ar hyn o bryd yw Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd, Cynorthwywyr Gofal Mamolaeth, a Nyrsys Meithrin.
Rydym yn awyddus i gynnig cyfle i Gynorthwywyr Gofal Mamolaeth astudio cymwysterau mewn partneriaeth â chydweithwyr ym Mhrifysgol Abertawe.
Gallech ymuno â Choleg Brenhinol y Bydwragedd (RCM). Mae’r RCM yn cynnal cyrsiau, cynadleddau a seminarau lle gallwch ddiweddaru eich sgiliau a rhwydweithio ag eraill sy’n gweithio yn yr un maes.
Gallech wneud cais am swyddi eraill yn y tîm gofal iechyd ehangach neu os ydych chi’n gweld eich gyrfa yn parhau o fewn Gwasanaethau Mamolaeth, gallech edrych ar hyfforddiant i fod yn fydwraig.
Darganfyddwch pam ddylech chi weithio i ni.
Gweler rhestr lawn o fuddion gweithwyr.