Rolau ymarferydd cynorthwyol (Band 4)
Yn 2018, nododd cynllun ‘Cymru Iachach’ a rhaglen drawsnewid genedlaethol Llywodraeth Cymru weledigaeth hirdymor o ‘ymagwedd system gyfan tuag at iechyd a gofal cymdeithasol’ sy’n dibynnu ar weithlu wedi’i foderneiddio y bydd y Rôl Ymarferydd Cynorthwyol yn rhan hanfodol ohono wrth ddatblygu gweithlu cynaliadwy ac ar gyfer y dyfodol. Mae BIP Bae Abertawe yn chwilio am staff profiadol naill ai sydd â’r cymwysterau perthnasol i ymgeisio am y rolau hyn ar draws y bwrdd iechyd neu staff a gyflogir i Raglen Ymarferydd Cynorthwyol dan hyfforddiant tra’n cael eu cefnogi i ymgymryd â’r Dystysgrif Addysg Uwch lefel 4 i’w galluogi i ddatblygu ac ennill y cymwysterau perthnasol i symud ymlaen i rolau Ymarferydd Cynorthwyol band 4.
Nyrsio
Mae’r Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd (HCSW) yn rhan o’r tîm amlddisgyblaethol sy’n darparu gofal i gleifion. Darperir cefnogaeth a goruchwyliaeth gan Nyrs Gofrestredig. Mae’r Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd yn cyflawni ystod o weithgareddau a thasgau gofal personol i gefnogi a goruchwylio gan Nyrs Gofrestredig. Mewn ysbyty, efallai y byddwch yn:
- Golchi a gwisgo cleifion
- Gweini prydau bwyd a helpu i fwydo cleifion
- Helpu pobl i symud o gwmpas
- Gwneud gwelyau
- Gwneud i gleifion deimlo’n gyfforddus
- Monitro cyflyrau cleifion trwy gymryd tymereddau, pwls, pwysedd gwaed, anadliadau a phwysau ac ati
Darganfyddwch pam ddylech chi weithio i ni.
Gweler rhestr lawn o fuddion gweithwyr.