Gwyddonwyr gofal Iechyd
Mae gwyddonwyr gofal iechyd yn chwarae rhan hanfodol yn y GIG, maen nhw’n helpu i atal, diagnosio a thrin salwch gan ddefnyddio eu gwybodaeth am wyddoniaeth a’u sgiliau technegol. Mae eu rôl yn ymestyn ar draws y llwybr arloesi cyfan o ymchwil academaidd i drawsnewid gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar y claf. Mae rhai gwyddonwyr gofal iechyd yn cael cysylltiad uniongyrchol â chleifion tra bod eraill wedi’u lleoli mewn labordai ac efallai na fyddant yn rhyngweithio’n uniongyrchol â chleifion. Mae gwyddonwyr gofal iechyd yn rhan annatod o’r tîm gofal iechyd amlddisgyblaethol ac ar y cyd maen nhw’n cyfrannu at 80% o’r holl ddiagnosis a thriniaeth.
Darganfyddwch pam ddylech chi weithio i ni.
Gweler rhestr lawn o fuddion gweithwyr.