Fferyllydd arbenigol ac uwch (Bandiau AfC 7-8a)
Mae rolau fferyllwyr ymarfer estynedig neu uwch fel arfer yn cynnwys arbenigedd mewn maes penodol neu gwmpas ymarfer, e.e. cardioleg, niwroleg, eiddilwch, iechyd meddwl, oncoleg, gwasanaethau technegol, neu gyfuniad o arbenigeddau, e.e. rolau ar y cyd ar draws ein sectorau ysbytai a gofal sylfaenol, neu gyda sefydliadau allanol e.e. Prifysgol Abertawe.
Maen nhw fel arfer yn ymgymryd ag addysg bellach i fireinio eu gwybodaeth a’u sgiliau o fewn yr arbenigedd, e.e. cymhwyster rhagnodi neu raddau meistr. Maen nhw’n cyflawni’r un dyletswyddau gweithredol â fferyllydd gyrfa gynnar, ond gyda mwy o brofiad a ffocws ac fel arfer maen nhw’n gyfrifol am oruchwylio ac arwain timau o fewn y gwasanaeth. Maen nhw hefyd yn arwain yn weithredol ar ddatblygu canllawiau lleol ac yn cyfrannu at raglenni gwaith cenedlaethol.
Darganfyddwch pam ddylech chi weithio i ni.
Gweler rhestr lawn o fuddion gweithwyr.