Prentisiaethau
Prentisiaethau
Rydym ni’n cynnig cyfleoedd prentisiaeth ar gyfer nifer o rolau gwahanol sy’n rhoi cyfle gwych os ydych yn awyddus i ddechrau eich gyrfa gyda’r GIG.
Prentisiaethau yn BIP Bae Abertawe
Mae gennym ni gyfleoedd prentisiaeth ar draws ystod o adrannau.
O Weithwyr Cymorth Gofal Iechyd ar ein wardiau a’n Theatrau llawdriniaethau, i’n tîm Gwasanaeth Digidol ym Mhencadlys Baglan, mae rhai o’n rhaglenni’n cynnwys:
- Prentis Dadansoddwr Data Lefel 4 sydd newydd ei gyflwyno o fewn ein tîm trawsnewid
- TGCh
- Gweinyddiaeth Busnes
- Porth Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd — fframwaith peilot, sydd eisoes wedi recriwtio chwe dysgwr newydd, gan ymgymryd â phrentisiaeth Porth HCSW lefel 2 am gyfnod o 12 mis. Yna, mae’r holl ddysgwyr yn cael cyfle i symud ymlaen i rôl HCSW barhaol yma ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.
- Mae prentisiaethau ar gael ar lefel 2,3 a 4.
Beth yw prentisiaeth?
Mae prentisiaeth yn rhaglen hyfforddi seiliedig ar waith sy’n canolbwyntio ar y swydd gyfan, nid dim ond eich sgiliau unigol, a bydd yn darparu set o sgiliau a chymwysterau galwedigaethol a swyddogaethol i chi, gan gynnwys Saesneg, Mathemateg a TGCh.
Gall unrhyw un dros 16 mlwydd oed nad yw mewn addysg amser llawn wneud cais i fod yn brentis.
Cyflwynir cymwysterau prentisiaeth yn y gweithle, a byddwch yn dysgu ‘yn y gwaith’ wrth dderbyn hyfforddiant gan staff profiadol. Gall fod yn gyfle i staff newydd a staff presennol fel ei gilydd. Mae ein cyfleoedd prentisiaeth fel arfer yn para rhwng 12 mis a phedair blynedd, yn dibynnu ar y math o raglen.
Os ydych chi’n aelod presennol o staff, gallwch gofrestru ar ystod eang o gymwysterau sy’n gweddu i’ch rôl bresennol neu anghenion datblygu gyrfa, e.e. Arweinyddiaeth a Rheolaeth ILM, AAT (Cyfrifeg), Arwain Tîm, Gweinyddu Busnes (o lefelau 2-4), Gwasanaeth Cwsmeriaid, Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad, CIPD (AD), Rheoli Prosiectau, Cymorth Gofal Iechyd a TGCh.
Pam dewis BIP Bae Abertawe ar gyfer Prentisiaethau?
Mae tîm yr Academi Brentisiaid yn darparu cymorth o ansawdd uchel i’ch helpu gyda’ch taith gyrfa. Rydym ni’n gweithio’n agos gydag ystod eang o ddarparwyr hyfforddiant, a byddwch yn derbyn hyfforddiant rhagorol, cyfle i rwydweithio a chwrdd â phrentisiaid eraill ar eich taith, a fforwm i chi gyflwyno syniadau arloesol i newid ein gwasanaethau er gwell. Beth bynnag yw eich nodau gyrfa, byddwch yn dod o hyd i gymorth a chefnogaeth i sicrhau eich bod chi’n cyrraedd lle rydych eisiau bod.
Fel prentis yma byddwch yn cwrdd â’ch asesydd ac aelodau o’r Academi Brentisiaid i gael adolygiadau rheolaidd.
Rydym ni’n ymweld ag ysgolion a cholegau lleol ac yn gweithio gyda chanolfannau gwaith i hyrwyddo’r cyfleoedd prentisiaeth sydd ar gael ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ac yn cynnal digwyddiadau gyrfa prentisiaid i chi ddod i gwrdd â’r adrannau sydd â swyddi gwag.
Ein meysydd pwnc ar gyfer prentisiaethau:
- Busnes
- Gweinyddu
- Gwasanaeth cwsmeriaid
- TGCh
- Gwaith warws
- Cymorth gofal iechyd
- Peirianneg drydanol
- Ystadau/aml-grefft
- Patholeg
- Nyrsio deintyddol
- Cyfathrebu digidol.