Gweinyddol a Chlerigol
Gweinyddol a Chlerigol
Pan fyddwch chi’n meddwl am swyddi yn y GIG, efallai y bydd eich meddwl yn tueddu i neidio i rolau clinigol fel meddygon a nyrsys. Fodd bynnag, y tu ôl i’r llenni mae timau mawr o staff gweinyddol a chlerigol yn gweithio’n galed i gadw pethau’n rhedeg yn esmwyth, gan chwarae rhan allweddol yng ngweithrediad Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.
Cyfleoedd llwybr gyrfa
Gan fod gennym ni gymaint o rolau gweinyddol a chlerigol, mae hyn yn aml yn dod â llawer o le i ddatblygu a symud ymlaen. Mae digon o gyfleoedd i gymryd cymwysterau pellach, wedi’u hariannu’n llawn yn aml, er mwyn datblygu eich sgiliau. Mae ein holl staff yn cael PADR blynyddol (Adolygiad Datblygu Gwerthuso Personol) lle gellir trafod cyflawniadau a nodau datblygu gyrfa yn y dyfodol i’ch helpu i gyrraedd y cam nesaf hwnnw. Rydym ni bob amser yn ceisio datblygu ein staff ac mae gennym ni dîm Dysgu a Datblygu gwych ar waith i gefnogi hyn, gan gynnwys hyfforddi staff.
Pam dewis Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ar gyfer Rolau Gweinyddol a Chlerigol?
Mae ein Bwrdd Iechyd yn allweddol i’r ardal leol, ac mae ein rolau gweinyddol a chlerigol yn rhan hanfodol o gadw pethau’n rhedeg yn esmwyth y tu ôl i’r llenni. Mae bod yn rhan o’n tîm yn werth chweil, lle nad oes dau ddiwrnod yr un fath.
Darganfyddwch pam ddylech chi weithio i ni.
Gweler rhestr lawn o fuddion gweithwyr.
Ein rolau
Mae rhai o’n rolau gweinyddol yn cynnwys:
Rheolwyr gwasanaeth
Mae Rheolwyr Gwasanaeth yn arwain gweithrediadau gwasanaethau clinigol o ddydd i ddydd...
Gweithwyr proffesiynol Adnoddau Dynol/TG/Cyllid
Mae'r unigolion hyn yn gwneud gwaith gweinyddol arbenigol a thechnegol, gan ddarparu cymorth...
Swyddogion cymorth
Mae Swyddogion Cymorth yn aml yn cefnogi rheolwyr a staff perthnasol eraill wrth redeg gweithrediadau...
Rheolwyr Prosiect
Mae Rheolwyr Prosiect yn rheoli, adolygu, arwain a threfnu prosiectau gyda nodau penodol mewn golwg...
Cydlynwyr
Mae cydlynwyr yn trefnu triniaethau fel sganiau a phrofion i gleifion...
Gweithredwr switsfwrdd
Gweithredwyr Switsfwrdd yw'r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer galwyr allanol...
Ysgrifennydd meddygol/cynorthwy-ydd personol
Mae Ysgrifenyddion Meddygol a Chynorthwywyr Personol yn cefnogi staff clinigol a/neu gyfarwyddol...
Ysgrifennydd/teipydd
Mae Ysgrifenyddion a Theipyddion yn darparu cymorth gweinyddol ar wardiau ac mewn adrannau clinigol...
Derbynnydd
Derbynyddion yn aml yw'r pwynt cyswllt cyntaf mewn mannau fel adrannau cleifion allanol...
Staff cofnodion Iechyd
Mae ein Staff Cofnodion Iechyd yn gweithio yn yr adran 'cofnodion meddygol' i olrhain...
Clerc ward
Ein Clercod Ward yw'r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymwelwyr â ward...
Gwybodaeth ychwanegol
Ar gyfer unrhyw rôl weinyddol byddwch angen safon dda o lythrennedd a rhifedd. Mae ein manylebau person fel arfer yn gofyn am TGAU (neu gyfwerth) mewn Saesneg a Mathemateg.
Mae sgiliau a chymwysterau TG yn ddefnyddiol hefyd gan fod cymaint o systemau’r GIG yn ddigidol nawr. Byddwch yn defnyddio eich sgiliau yn benodol mewn rheoli amser, trefnu a chyfathrebu mewn unrhyw rôl weinyddol. I ddarganfod gofynion penodol ar gyfer y rôl mae gennych chi ddiddordeb ynddi, edrychwch ar y disgrifiad swydd/manyleb person sydd ynghlwm wrth yr hysbyseb a chofiwch amlinellu sut y gallwch chi ddangos y gofynion hyn yn eich cais.
Mae ymdeimlad gwirioneddol o berthyn
yn y bwrdd iechyd ac yn fy nghymuned leol