Banc Nyrs
Banc Nyrs
Mae gennym ni amrywiaeth o rolau Banc ar gael ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, o Nyrsys i Borthorion a staff Gweinyddol i Lanhawyr. Gall gwaith banc ffitio o fewn eich ffordd o fyw gyda phatrymau gweithio hyblyg, ac mae’n rhoi cyfle i chi ddatblygu eich gyrfa, weithiau gyda chyfle i weithio mewn adrannau gwahanol.
Rydym ni’n darparu staff â sgiliau priodol i ymdrin ag arbenigeddau amrywiol ledled y Bwrdd Iechyd a’n nod yw darparu gweithwyr gofalgar, cymwys a dibynadwy sy’n gallu ymateb i ofynion staffio.
Banc Nyrsys yn BIP Bae Abertawe
Drwy ymuno â’n Banc Nyrsys byddwch yn cael…
-
Hyblygrwydd, amrywiaeth a’r cyfle ar gyfer sifftiau ychwanegol
Amrywiaeth o batrymau sifft i gyd-fynd â’ch amgylchiadau personol y gellir eu cadw ymlaen llaw.
-
Hawl ychwanegol i EWTD
Telir taliad ychwanegol o hawl gwyliau blynyddol EWTD i staff parhau.
-
Cyfraddau cyflog uwch
Ar gyfer nosweithiau, penwythnosau a gwyliau banc yn ogystal ag ar gyfer staff sydd â sgiliau penodol i weithio ym maes gofal critigol a theatrau.
-
Datblygiad proffesiynol
Hyfforddiant ymsefydlu â thâl, sifftiau ymgyfarwyddo a mynediad at gyrsiau a chynadleddau mewnol.
-
Sgiliau arbenigol
Gall nyrsys arbenigol profiadol sydd ddim ond eisiau gweithio mewn arbenigedd penodol gael eu lletya mewn meysydd, fel gofal brys.
-
Cyfleoedd i fyfyrwyr nyrsio
Rydym ni’n cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr nyrsio sy’n cofrestru fel gweithwyr cymorth gofal iechyd ar y banc i gael profiad o weithio mewn meysydd lle nad ydynt wedi ymgymryd â lleoliad drwy’r brifysgol.
-
Buddion y GIG
Mynediad i gynllun pensiwn y GIG, gwisg am ddim, a mynediad at wasanaethau iechyd a lles galwedigaethol.
Amdanat ti
I ymuno â’n banc, byddwch yn ymrwymo i’r canlynol:
- Ein gwerthoedd sefydliadol
- Darparu gofal o safon uchel i’n cleifion
- Cwblhau’r cyfnod ymsefydlu a’r hyfforddiant gofynnol
- Sicrhau eich bod chi ar gael i weithio yn rheolaidd
Y broses recriwtio
Mae ein proses recriwtio yn cynnwys:
- Cyfweliad wyneb yn wyneb gyda recriwtiwr banc
- Darparu tystysgrifau cymhwyster priodol, prawf adnabod, geirdaon addas a chymhwysedd i weithio yn y DU
- Bydd angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Clirio gan Iechyd Galwedigaethol